

Cynhaliodd Mudiad Cymunedol Cymru (MCC) y sesiwn “Vulture capitalism versus communities.”
Agorodd Selwyn Williams, Is-gadeirydd MCC a chynrychiolydd Cwmni Bro Ffestiniog y sesiwn drwy dynnu sylw at y modd nad yw’r economi bresennol yn lledaenu cyfoeth i bawb a’r potensial ar gyfer cyfathrebu fel model economaidd amgen.
Cyflwynodd aelodau amrywiol MCC y modd y maent yn gweld y model hwn yn gweithio yn eu cymunedau. Dilynwyd hyn gan drafodaeth fywiog iawn ar fodel economaidd amgen gan ymdrin â phynciau ehangach fel cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a lles, defnyddio ymchwil yn ymarferol, tai fforddiadwy a mynd I’r afael â thlodi.
Daeth yn amlwg fod gan gymunedau’r atebion i’r materion cymhleth y maent yn eu hwynebu ac mae cyfoeth o arbenigedd y gellir eu defnyddio i weithredu’r dulliau hyn yn gymunedol. Ochr yn ochr â chyflwyno atebion ymarferol, amlygwyd y gellir cyd-ddylanwadu ar bolisi gan rymuso cymunedau ymhellach.
Diolch yn fawr i Sue Denham a Jessie Buchanan o Together for Change am gydlynu’r sesiwn. Mae Jessie wedi darlunio’r drafodaeth yn greadigol drwy animeiddio (delweddau ynghlwm).
I ymuno â’r mudiad ac i lywio blaenoriaethau’r dyfodol, ymwelwch Ymunwch â ni