
Rhwydwaith o sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y gymuned ac sydd yn creu symudiad gan ganolbwyntio ar y cyd ar ymdrin â materion sydd yn effeithio ar gymunedau Cymru.

Llais
Byddwn yn cydweithio er mwyn cynyddu lleisiau cymunedol i gynorthwyo datblygiad polisiau ac ymarferion sydd yn effeithio arnom.

Cysylltiad
Byddwn yn cydgysylltu unigolion a grwpiau er mwyn dynodi materion a phryderon a rennir i’w galluogi i weithredu ar y cyd.

Cydweithio
Rydym yn rhoi gwerth ar rannu ac yn defnyddio dealltwriaeth, sgiliau a phrofiadau bywyd amrywiol y gymuned i hysbysu camau gweithredu ar y cyd a dwyn newid.

Cyfiawnder Cymdeithasol
Byddwn yn ceisio adeiladu cymdeithas gydradd lle y mae hawliau cymunedol a dynol yn cael eu hyrwyddo gan herio pob math o wahaniaethu.

Cymunedau Cynaliadwy
Byddwn yn cynorthwyo cymunedau i ddatblygu eu cryfderau, adnoddau a’u hanibyniaeth drwy gryfhau cysylltiadau â mudiadau cymdeithasol ehangach.

Mudiad Cymunedol Cymru
Cydgysylltu Grwpiau Cymunedol
Mae’r Mudiad yn darparu llwyfan i gydgysylltu grwpiau cymunedol sydd yn gweithio ar lawr gwlad er mwyn hyrwyddo newid radical, dylanwadu ar bolisiau llywodraeth ganolog a lleol a’u gweithredu ar y cyd.
Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo dull Adeiladu Cyfoeth Cymunedol yn hytrach na model datblygiad economaidd amgen gan ddatblygu perchnogaeth gymunedol a chryfhau economiau lleol.
Mudiad Cymunedol Cymru
Dyfod yn Aelod
Fel aelod, gallwch gyrchu digwyddiadau a chyfarfodydd rhwydwaith er mwyn rhannu dysgu, llwyddiannau a heriau.
Rhwydweithio
Dyfod yn rhan o rwydwaith grwpiau cymunedol ehangach, ledled Cymru.
Dylanwad
Ffurfio polisiau ar lefel leol a chenedlaethol sydd yn cael effaith ar weithredu cymunedol.
Dysgu
Cyfle i ddysgu gan eraill.
Cyfranogiad
Hysbysu ymgyrchu MCC.