Cymunedoli Cymru Forum at Plas Tan y Bwlch

Mae Cymunedoli Gwynedd Cyf wedi ei sefydlu sy’n rhwydwaith o ryw 50 o fentrau cymunedol o bob rhan o Gymru. Nod Fforwm Hydref yw dod â mentrau cymunedol o bob rhan o Gymru ynghyd i ddechrau’r broses o sefydlu maniffesto datblygu cymunedol cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

The aim of the October Forum is to bring together community enterprises from across Wales to begin the process of establishing a community development manifesto ahead of the 2026 Senedd elections.

Lleoliad: Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog LL41 3YU

AMCANION Y FFORWM

Dod â phobl o bob rhan o Gymru i:

  • Dechrau datblygu maniffesto datblygu cymunedol.
  • Trafod ffyrdd ymlaen ar gyfer datblygu cymunedol yng Nghymru.
  • Trafod sefydlu Cymunedoli Cymru (Communitising Wales) fel cyfrwng i fentrau cymunedol rhwydweithio ledled Cymru.
  • Trafod sefydlu Senedd o’r Cymunedau fel corff cenedlaethol democrataidd i gynrychioli lleisiau mentrau cymunedol yng Nghymru.
  • Dechrau datblygu maniffesto datblygu cymunedol.

 

Sesiynau Fforwm

Sesiwn 1 bore Gwener, Hydref 18fed.

Sesiwn agored sy’n rhoi cyfle i bawb gyfrannu syniadau ynghylch ffyrdd ymlaen ar gyfer datblygu cymunedol yng Nghymru.

Sesiwn 2 prynhawn dydd Gwener, Hydref 18fed.

Trafod sefydlu Cymunedoli Cymru (Communitising Wales) fel cyfrwng i  fentrau cymunedol rhwydweithio ledled Cymru.

Sesiwn 3 bore Sadwrn, Hydref 19eg.

Trafod sefydlu Senedd o’r Cymunedau fel corff cenedlaethol democrataidd i gynrychioli lleisiau mentrau cymunedol yng Nghymru.

Sesiwn 4 prynhawn dydd Sadwrn, Hydref 19eg.

Dechrau datblygu maniffesto datblygu cymunedol gyda ffocws ar etholiadau Senedd Cymru yn 2026.